Neidio i'r prif gynnwy

Codi Pryderon

Cwynion

Trefn Cwynion

Gweithdrefn ar gyfer delio â chwynion.

Rydym yn gweithredu gweithdrefn gwyno practis fel rhan o system GIG ar gyfer delio â chwynion. Mae ein system gwynion yn bodloni meini prawf cenedlaethol.

Sut i wneud cwyn:

Gobeithiwn y gellir datrys y rhan fwyaf o broblemau’n hawdd ac yn gyflym, yn aml ar yr adeg y maent yn codi a chyda’r person dan sylw.
Os na ellir datrys eich problem yn y modd hwn a'ch bod yn dymuno gwneud cwyn, hoffem i chi roi gwybod i ni cyn gynted â phosibl -
yn ddelfrydol, o fewn ychydig ddyddiau neu o leiaf ychydig wythnosau - oherwydd bydd hyn yn ein galluogi ni i sefydlu beth ddigwyddodd yn haws.
Os nad yw’n bosibl gwneud hynny, rhowch fanylion eich cwyn i ni:

 

- o fewn 6 mis i'r digwyddiad a achosodd y broblem; neu

- o fewn 6 mis i ddarganfod bod gennych chi'r broblem, ar yr amod bod hyn o fewn 12 mis i'r digwyddiad.

 

Dylid cyfeirio cwynion at Dr Arfon Williams. Bydd yn help mawr os ydych mor benodol â phosibl am eich cwyn.

Share: