PROFION A DREFNWYD GAN YR YSBYTY
Nid ydym yn cael canlyniadau profion y mae meddygon ysbyty yn gofyn amdanynt. Mae'r rhain yn cael eu hanfon yn syth i'r ysbyty a dylech gysylltu ag ysgrifennydd yr ymgynghorydd/arbenigwr sydd o dan eich gofal.
Mae canlyniadau'r profion hyn fel arfer ar gael yn eich apwyntiad ysbyty nesaf.
Canlyniadau Prawf Gwaed
Caniatewch o leiaf tri diwrnod gwaith cyn ffonio'r feddygfa i gael eich canlyniad. Gall canlyniadau profion cymhleth gymeryd mwy o amser na hyn i gyrraedd y feddygfa, a bydd eich meddyg, nyrs, cynorthwyydd gofal iechyd neu fflebotomydd yn rhoi gwybod i chi pa mor hir i aros cyn cysylltu â ni am y canlyniad.
Canlyniadau Pelydr-X a Sgan
Caniatewch o leiaf saith diwrnod gwaith cyn ffonio'r feddygfa i gael eich canlyniadau.