Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth i Ofalwyr

Pwy yw Gofalwyr a beth maen nhw'n ei wneud?

Mae gofalwyr yn bobl sy'n darparu neu'n bwriadu darparu gofal i oedolyn neu blentyn anabl. Gall gofalu fod yn werth chweil ond gall hefyd effeithio ar eich bywyd cartref, bywyd gwaith, amser rhydd a'ch perthynas â'r person rydych yn gofalu amdano. Nid oes rhaid i chi fyw yn yr un tŷ â’r person hwnnw i fod yn ofalwr iddynt. Nid yw gofalwyr yn cael cyflog i ddarparu cymorth ac weithiau cyfeirir atynt fel gofalwyr di-dâl neu anffurfiol.

Wrth i fwy a mwy ohonom ymgymryd â’r rôl o ofalu am rywun, mae’n debygol ein bod naill ai’n ofalwr, wedi bod, neu’n adnabod gofalwr.

Os ydych yn gofalu am rywun, dysgwch am eich hawliau fel gofalwr a lle gallwch fynd am gymorth ariannol neu ymarferol ar wefan Carers UK.

Mae’r Llawlyfr Gofalwyr yn cynnig gwybodaeth am:

  • Cael cymorth gan y Gwasanaethau Cymdeithasol
  • Cael cymorth gan y Gwasanaethau Iechyd
  • Cymorth sydd ar gael o ran gwaith a hamdden, arian a materion cyfreithiol, cynnal ac addasu eich cartref, trafnidiaeth, gofalu am rywun sy’n derfynol wael, argyfyngau a gwneud cwyn.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn:

Carers UK - gwasanaethau i gefnochi chi yn eich rol fel gofalwyr

Dewis

 

Beth yw Cerdyn Argyfwng Gofalwyr?
Mae'n gerdyn maint credyd rydych chi'n ei gario bob amser. Mewn damwain, salwch sydyn neu os nad ydych yn gallu dychwelyd adref am unrhyw reswm arall, ac y byddai’r person rydych yn gofalu amdano mewn perygl o niwed difrifol pe bai’n cael ei adael ar ei ben ei hun, mae’n dangos bod gennych rywun sy’n dibynnu arnoch chi ac sy’n methu ymdopi heb gymorth.

Dim ond pan na allwch wneud trefniadau eich hun y defnyddir y cerdyn. Bydd y gwasanaethau gofal cymdeithasol yn cadw'r manylion cyswllt brys a gymerwyd pan fyddwch yn cofrestru trwy wneud galwad ffôn fer, gellir trefnu cymorth ar gyfer y person rydych yn gofalu amdano.

Ydych chi'n gofalu am rywun â dementia?


Gall diagnosis dementia ddod fel sioc i'r person sydd â'r cyflwr a'r rhai o'i gwmpas. Fodd bynnag, mae ffynonellau cymorth a chefnogaeth i bawb sy'n gysylltiedig.

Rydym yn deall y gall gofalu am rywun â dementia fod yn straen ac yn heriol iawn ac y gall gofalwyr brofi pryder ac iselder weithiau. Mae gofalu am eich iechyd eich hun yr un mor bwysig ag yw iechyd y person â dementia.

Mae ystod eang o gymorth ar gael, o Grwpiau Gofalwyr, Grwpiau Ar-lein, Caffis Cof a Chanolfannau Dydd. Mae rhagor o wybodaeth ar gael i ofalwyr dementia ar y gwefannau canlynol:

Age UK 

Alzheimer's Society 

Dementia UK

Dementia Friends

NHS Wales Help & Support Guide

Ydych chi'n ofalwr i Gyn-filwr?


Gall gofynion gofalu gael eu hanwybyddu ond mae'n bwysig cydnabod y rhan hollbwysig rydych chi'n ei chwarae wrth helpu rhywun arall yn eu bywyd bob dydd.

Gall gofalu o fewn cymuned cyn-filwyr y Lluoedd Arfog, p’un ai mai chi yw’r gofalwr neu’n derbyn gofal gyflwyno rhai heriau ychwanegol. Efallai eich bod wedi dod o ddiwylliant yn y fyddin lle rydych chi wedi ymdopi â risgiau difrifol a chan eich bod yn gyn-filwr rydych chi'n gyfarwydd â hunangynhaliaeth ac aberth. Gallech fod yn amharod i gyfaddef unrhyw wendid oherwydd eich bod wedi arfer bwrw ymlaen ag ef. Efallai hefyd y bu adegau yn y Gwasanaeth pan fyddwch wedi bod i ffwrdd oddi wrth eich teulu a'ch ffrindiau ac wedi colli cysylltiad â'r rhai a allai helpu. Mae'n bwysig felly eich bod chi'n gwybod lle gallwch chi fynd am y cymorth cywir pe bai ei angen arnoch chi.

Bydd rhai cyn-filwyr a’u teuluoedd yn teimlo nad yw gwasanaethau cymorth ‘ar eu cyfer nhw’ ac na fydd eu hanghenion yn cael eu deall. Fodd bynnag, mae digon o wybodaeth a chymorth sy’n newid bywydau ar gael i gyn-filwyr a’u gofalwyr.

A guide to caring for the Armed Forces Veteran Community

Homepage | Care for Veterans 

Looking After Someone - Carers UK

Share: